top of page

Bell is Back!

Bell yn Ôl — Amddiffynnwr Profiadol yn Dychwelyd i Faes Tegid


Mae Clwb Pêl-droed Y Bala yn falch iawn o gadarnhau dychweliad yr amddiffynnwr

canol profiadol Will Bell i Faes Tegid cyn dechrau’r tymor 2025/26.


Mae’r amddiffynnwr 30 oed wedi mwynhau cyfnod llwyddiannus gyda’r Llynwyr

rhwng 2016 a 2022, yn un o amddiffynwyr gorau Uwch Gynghrair Cymru.


Yn ystod ei gyfnod cyntaf gyda Chlwb Pêl-droed Y Bala, gwnaeth Bell dros 120 o

ymddangosiadau ym mhob cystadleuaeth, gan gyfrannu at nifer o ymgyrchoedd

llwyddiannus yn y gynghrair uchaf ac anturiaethau Ewropeaidd. Roedd ei

bresenoldeb cryf yn yr awyr, ei dawelwch gyda’r bêl, ac ansawdd ei arweinyddiaeth

yn ei wneud yn ffefryn mawr ymhlith ei gyd-chwaraewyr a’r cefnogwyr.


Wrth ddychwelyd i Faes Tegid, mae Bell yn dod â chyfoeth o brofiad — gyda mwy na

170 o ymddangosiadau yn Uwch Gynghrair Cymru — ac yn deall yn drylwyr

diwylliant ac uchelgais y clwb.


Wrth siarad ar ôl ail-ymuno â’r Bala, dywedodd Bell:


“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn ôl yn y Bala. Mae’r clwb yma’n golygu llawer i mi —

cefais flynyddoedd gwych yma, ac rwy’n awyddus i helpu’r tîm i wthio ymlaen eto’r

tymor hwn. Fedra i ddim aros i ddechrau a chwrdd eto â phawb yn Faes Tegid.”


Ychwanegodd Rheolwr y Tîm Cyntaf, Steve Fisher:


“Mae’n wych cael Will yn ôl yn y Bala. Mae’n gwybod yn union beth yw hanfod y clwb

hwn, ac fe fydd ei brofiad, ei arweinyddiaeth, a’i rinweddau amddiffynnol yn hwb

enfawr i ni. Mae’n union y math o gymeriad rydym ni eisiau yn yr ystafell newid.”


Mae dychweliad Bell yn cryfhau ymhellach uchelgais Y Bala i adeiladu carfan sydd

yn gallu herio am dlws. Mae paratoadau’r Llynwyr ar gyfer tymor newydd cyffrous yn

parhau i fynd o nerth i nerth.


----------


Bell is Back — Defender Returns to Maes Tegid


Bala Town FC is delighted to announce the return of experienced centre-back Will

Bell to Maes Tegid ahead of the 2025/26 campaign.


The 30-year-old defender, who previously enjoyed a successful spell with the

Lakesiders between 2016 and 2022, and established himself as one of the Cymru

Premier’s top defenders.


During his first spell with Bala Town, Bell made over 120 appearances across all

competitions, contributing to numerous top-flight campaigns and European

adventures. His strong aerial presence, composure on the ball, and leadership

qualities made him a firm favourite among teammates and supporters alike.


Now returning to Maes Tegid, Bell brings with him a wealth of experience — with

more than 170 Cymru Premier appearances to his name — and a deep

understanding of the club’s culture and ambitions.


Speaking after rejoining Bala Town, Bell said:


“I’m really excited to be back at Bala. This club means a lot to me — I had some

great years here, and I’m hungry to help the team push on again this season. I can’t

wait to get started and reconnect with everyone at Maes Tegid.”


First-Team Manager Steve Fisher added:


“It’s fantastic to bring Will back to Bala. He knows what this club is all about, and his

experience, leadership, and defensive qualities will be a massive boost for us. He’s

exactly the kind of character we want in the dressing room.”


Bell’s return further strengthens Bala Town’s ambitions to build a squad capable of

challenging for silverware. The Lakesiders’ preparations for an exciting new season

continue to gather momentum.

Comentários


bottom of page