top of page

Ferguson finalises Town move!


Mae Clwb Pêl-droed Tref y Bala yn falch iawn o gadarnhau arwyddo Cameron Ferguson, sy’n ymuno â’r Llynwyr ar ol gadael Clwb Pel-Droed Tref y Fflint


Mae’r chwaraewr 22 oed yn cyrraedd Maes Tegid gyda phrofiad o’r Cymru Premier yn barod, ar ôl chwarae i Connah’s Quay Nomads a Thref y Fflint, gan wneud 15 ymddangosiad dros dymor a hanner yn y gynghrair.


Mae’r ymosodwr hefyd wedi chwarae yn Lloegr a’r Alban gyda chlybiau fel tîm dan-23 Newcastle United a thîm dan-18 Tranmere Rovers yn Lloegr, ac yn yr Alban gyda Forfar Athletic, Forres ac Inverness CT.


Mae Cameron yn ychwanegu dyfnder a chystadleuaeth pellach at opsiynau ymosodol CPD Tref y Bala cyn ail hanner hollbwysig y tymor, ac fe allai wynebu ei gyn-glwb nos yfory wrth i ni deithio i Stadiwm Essity.


Yn fab i’r cyn-chwaraewr Everton, Newcastle United ac yr Alban, Duncan Ferguson, mae Cameron wedi datblygu drwy systemau academi proffesiynol ac amgylcheddau pêl-droed uwch yng Nghymru a’r Alban, gan greu ei lwybr ei hun o fewn y gêm.


Croeso i Faes Tegid Cameron!


------------


Bala Town Football Club are delighted to confirm the signing of Cameron Ferguson, who joins the Lakesiders following his departure from Flint Town United.


The 22-year-old arrives at Maes Tegid with Cymru Premier experience under his belt, having played at Connah's Quay Nomads and Flint Town, making 15 appearances across a season and a half whilst in Cymru.


The Forward has also played in England and Scotland with teams such as Newcastle U23's and Tranmere Rovers U18's in England and up North in Scotland with Forfar Athletic, Forres and Inverness CT.


Cameron adds further depth and competition to the Bala Town attacking options ahead of a pivotal second half of the season, and could well play against his former team tomorrow evening as we head to the Essity Stadium.


The son of former Everton, Newcastle United and Scotland international Duncan Ferguson, Cameron has progressed through professional academy systems and senior football environments in both Wales and Scotland, making out his own pathway within the game.


Welcome to Maes Tegid Cameron!

Comments


bottom of page