Family Reunion as Charlie signs on!
- joetaftbalatown
- 2 days ago
- 2 min read

Mae Clwb Pêl-droed Tref y Bala yn falch iawn o gyhoeddi arwyddo’r ymosodwr Charlie Fisher fel y recriwt cyntaf yn Ffenestr Drosglwyddo mis Ionawr.
Mae Charlie yn fab i’n Rheolwr Tîm Cyntaf, Steve Fisher, ac mae wedi bod yn rhan o’r Clwb ac o’i gwmpas drwy gydol ei oes.
Mae’r chwaraewr 21 oed yn ymuno â’r Llynwyr ar ôl chwarae yn yr Unol Daleithiau ar ysgoloriaeth pêl-droed gyda Paul Quinn Athletics.
Cyn ei daith i’r Unol Daleithiau, yn gynnar yn 2023 chwaraeodd Charlie i Goleg Pêl-droed Everton lle cafodd brofiad o deithio i Chile yn Ne America, tra hefyd yn chwarae i dîm dan-18 Mossley Hill.
Mae Charlie yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig ar ôl gorffen ar frig tabl 'assists' yn y gynhadledd, gan gofnodi 5 cymorth mewn 11 gêm.
Bydd cadarnhad o rif crys Charlie yn cael ei ryddhau nes ymlaen.
Croeso i'r Clwb Charlie!
----------------
Bala Town Football Club are delighted to announce the signing of Forward Charlie Fisher as the first recruit of the January Transfer Window!
Charlie is the son of our First Team Manager Steve Fisher and has been in-and-around the Club his whole life.
The 21 year old joins the Lakesiders having played out in the United States on a Football College Scholarship with Paul Quinn Athletics.
Prior to his journey out in the States, in early 2023 Charlie played for Everton Football College where he would experience a trip to Chile in South America, while also playing for Mossley Hill U18's.
Charlie returns to the UK having just finished top of the assists leaderboard for the conference, having made 5 assists in 11 games.
Confirmation of Charlie's shirt number will be released in due course.
Croeso i'r Clwb Charlie!




