top of page

Australian Forward Tarasenko joins the Lakesiders!

ree

Ymosodwr Awstralaidd Tarasenko yn Ymuno â Clwb Pêl-droed Tref y Bala!


Mae CPD Tref y Bala yn falch o gyhoeddi arwyddo’r ymosodwr Awstralaidd Jacob Tarasenko, sy’n ymuno â’r “Lakesiders” cyn tymor 2025/26.


Mae’r ymosodwr 28 oed yn cyrraedd o Weriniaeth Ddominica, lle’r oedd yn chwarae i Atlántico FC yn Liga Dominicana de Fútbol. Yn ddinesydd dwbl Awstralaidd-Croataidd, mae Tarasenko yn dod â phrofiad rhyngwladol a gallu i sgorio goliau i Faes Tegid, gan iddo gynrychioli clybiau yn Awstralia ac yn Croatia – yn benodol Dinamo Zagreb.


Mae Jacob eisoes wedi cael dechrau gwych gyda’r 'Lakesiders', gan fod wedi cymryd rhan ym mhob gêm gyfeillgar cyn dymor hyd yma ac wedi gwneud argraff fawr yn ein buddugoliaeth 5-1 dros Dref Aberystwyth, gan sgorio dau gôl o dan yr enw ‘Trialist A’.


Dywedodd Tarasenko:

“O’r eiliad gyntaf i mi siarad gyda Fish a Val am y prosiect mae'n nhw’n ei adeiladu, cefais fy ysbrydoli ac roeddwn i eisiau bod yn rhan ohono. Mae pawb yn y Clwb ac o’i gwmpas wedi fy nghroesawu’n gynnes ac mae’n teimlo fel cartref eisoes. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn.”


Ychwanegodd Steve Fisher, Rheolwr y Tîm Cyntaf:

“Mae Jacob yn dod â phrofiad, ansawdd technegol, ac agwedd wych. Mae ei daith drwy wahanol gynghreiriau yn dangos ei allu i addasu a’i wydnwch – union y math o chwaraewr rydyn ni ei eisiau yn y Bala. Bydd yn cynnig rhywbeth gwahanol yn y trydydd olaf. Rwy’n gyffrous iawn i’w weld mewn crys y Bala.”


Mae Tarasenko yn dod yn ychwanegiad diweddaraf yr haf wrth i’r “Lakesiders” baratoi ar gyfer tymor uchelgeisiol 2025/26.


----------------


Australian Forward Tarasenko Signs for Bala Town


Bala Town FC is delighted to announce the signing of Australian Forward Jacob

Tarasenko, who joins the Lakesiders ahead of the 2025/26 season.


The 28-year-old striker arrives from the Dominican Republic, where he played for

Atlántico FC in the Liga Dominicana de Fútbol. A dual Australian-Croatian national,

Tarasenko brings international experience and a goal-scoring pedigree to Maes

Tegid, having also featured for clubs in Australia and Croatia namely Dinamo

Zagreb.


Jacob has already got off to a great start to life at the Lakesiders, having featured in all pre-season friendlies up to now and made a great impact in our 5-1 victory over Aberystwyth Town, scoring two goals under the alias of 'Trialist A'.


Tarasenko said:

“From the first moment I talked with Fish and Val about the project they are making I

got inspired and wanted to be part of it. Everyone in and around the club has

welcomed me and it already feels like home. I am eager to get started.”


First-Team Manager Steve Fisher added:

“Jacob brings experience, technical quality, and a great attitude. His journey through

different leagues shows his adaptability and resilience, exactly the kind of player we

want at Bala. He’ll offer something different in the final third. I’m really excited about

seeing him a Bala shirt”


Tarasenko becomes the latest summer addition as the Lakesiders gear up for an

ambitious 2025/26 campaign.

Comments


bottom of page