Coaching Continuity at Bala Town FC!
- joetaftbalatown
- Jun 26
- 3 min read

Parhad Hyfforddi — Steve Crompton yn Parhau gyda’r Tîm Cyntaf ac U21
Mae CPD Tref y Bala yn falch iawn o gadarnhau y bydd yr hyfforddwr profiadol Steve
Crompton yn parhau’n rhan annatod o staff y Tîm Cyntaf ar gyfer tymor 2025/26 —
tra hefyd yn cymryd rhan fwy eang yn rhaglen gyffrous Dan 21 y clwb.
Yn ffigur uchel ei barch yn y byd pêl-droed yng Nghymru, mae Crompton yn dod â
chyfoeth o brofiad i Faes Tegid, yn deillio o’i yrfa chwarae a hyfforddi. Dechreuodd ei
yrfa broffesiynol fel chwaraewr ymosodol eithriadol gyda Wolverhampton Wanderers
— profiad a fu’n llunio ei ddealltwriaeth o’r gêm ac a adeiladodd y gwydnwch sydd
wedi nodweddu ei yrfa hir ym myd pêl-droed.
Ar ôl ei gyfnod yn y Gynghrair Bêl-droed, bu Crompton yn chwarae’n llwyddiannus
yn y lefelau is yng Nghymru a’r Gogledd-orllewin, cyn symud i fyd hyfforddi. Bu’n
gweithio fel cynorthwyydd rheolwr gyda’r Tîm Cyntaf yn y Bala, cyn mynd ymlaen i
reoli CPD Ruthin a Chorwen — gan feithrin dealltwriaeth ehangach o bob lefel o’r
gêm.
Ers dychwelyd i’r Bala, mae Crompton wedi bod yn aelod amhrisiadwy o dîm
hyfforddi’r Tîm Cyntaf — gan gynnig arweiniad tawel, arbenigedd tactegol, a
dealltwriaeth eithriadol o ddatblygiad chwaraewyr. Yn awr, yn ychwanegol at ei rôl
gyda’r Tîm Cyntaf, bydd yn gweithio’n agosach gyda’r Dan 21 i arwain a mentora
cenhedlaeth nesaf y clwb.
Dywedodd Rheolwr y Tîm Cyntaf, Steve Fisher:
“Rwy’n falch iawn bod Steve yn parhau gyda ni. Mae ei brofiad — fel chwaraewr,
rheolwr ac hyfforddwr — yn dod â chymaint o werth i’r clwb. Mae wedi bod yn rhan
allweddol o’n hamgylchedd y Tîm Cyntaf ac yn awr bydd hefyd yn chwarae rhan fawr
yn natblygiad y chwaraewyr iau sy’n dod trwodd. Rydym yn lwcus iawn i’w gael.”
Ychwanegodd Pennaeth Hyfforddi’r U21, Nick Jones:
“Alla i ddim meddwl am unrhyw un gwell i gefnogi’r grŵp Dan21. Mae gwybodaeth
Steve am y gêm yn anhygoel. Bydd yn ased enfawr ar gyfer datblygiad chwaraewyr
unigol o fewn y Dan21. Rydym yn hynod lwcus cael rhywun o’i galibr yn ein cefnogi
— allai ddim aros i fod nôl yn y ‘dugout’ gydag e.”
Mae parhad cyfraniad Crompton yn tanlinellu ymrwymiad CPD Tref y Bala i adeiladu
ar gyfer y presennol a’r dyfodol — gyda’r arweinyddiaeth gref ar draws pob rhan o’r
clwb.
-------------------
Coaching Continuity — Steve Crompton Stays on with First Team & U21's
Bala Town FC is delighted to confirm that experienced coach Steve Crompton will
remain an integral part of the Lakesiders’ first-team staff for the 2025/26 season —
while also taking on an expanded role within the club’s exciting U21 programme.
A well-respected figure in Welsh football, Crompton brings a wealth of experience to
Maes Tegid from both his playing and coaching career. He began life in the
professional game as an outstanding attacking player with Wolverhampton
Wanderers — an experience that shaped his understanding of the game and built
the resilience that has marked his long career in football.
Following his time in the Football League, Crompton enjoyed a strong non-league
career across Wales and the Northwest, before moving into coaching. He served as
assistant manager with Bala’s first team, before going on to manage both Ruthin
Town and Corwen — gaining further insight into all levels of the game.
Since returning to the Lakesiders, Crompton has been an invaluable member of the
first-team coaching team — offering calm leadership, tactical expertise, and an
exceptional understanding of player development. Now, in addition to his first-team
role, he will work more closely with the U21's to help guide and mentor the club’s
next generation of talent.
First-Team Manager Steve Fisher commented:
“I’m really pleased that Steve is continuing with us. His experience — as a player,
manager, and coach — brings so much value to the club. He’s been a key part of our
first-team environment and will now also play a big role in developing the younger
players coming through. We’re very fortunate to have him.”
U21 Head Coach Nick Jones added:
“I can’t think of a better person to support the U21 group. Steve’s knowledge of the
game is unbelievable. He will be a huge asset for individual player development
within the U21s. We’re lucky to have someone of his calibre supporting us — I can’t
wait to be back in the dugout with him.”
Crompton’s continued involvement underlines Bala Town’s commitment to building
for both the present and the future — with strong leadership across all areas of the
club.
Comments