top of page

Bala Town FC Enter Partnership with Fanbase

Mae Clwb Pêl-droed Tref Y Bala yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth gyda 'Fanbase' wrth i ni edrych i wella ein hymgysylltiad â chefnogwyr ac uwchraddio’r profiad i’n cefnogwyr yn Maes Tegid.


Drwy’r bartneriaeth hon, bydd cefnogwyr yn gallu prynu tocynnau, archebu lletygarwch, a dilyn newyddion y clwb – i gyd mewn un lle. Mae’r llwyfan yn gweithio ar ffonau symudol, tabledi neu gyfrifiadur, gan ei gwneud yn hawdd a chyfleus aros yn gysylltiedig ble bynnag yr ydych. Gellir prynu tocynnau mewn dim ond ychydig o gliciau a’u cadw yn 'Apple' neu 'Google' Wallet ar gyfer mynediad cyflym a syml ar ddiwrnod y gêm.


I glwb Tref Y Bala, mae Fanbase yn darparu offer i helpu’r clwb ddeall ein cefnogwyr yn well a chadw mewn cysylltiad â nhw. Gall y clwb cael data allweddol, cyfathrebu’n fwy effeithlon â chefnogwyr, a gwneud penderfyniadau gwybodus i gefnogi cynlluniau’r dyfodol.


Mae’r platfform hefyd yn cynnig dulliau newydd i’r clwb gydweithio gyda noddwyr. Gall negeseuon noddwyr ymddangos yn ffrydiau newyddion yr 'app', canolfan y gemau, ac e-byst, gan helpu partneriaid i gysylltu â chefnogwyr mewn ffyrdd eglur ac effeithiol.


Dywedodd Kevin Russell, Rheolwr Datblygu Busnes Fanbase:


“Mae pawb yn Fanbase yn falch iawn o ychwanegu Clwb Pêl-droed Tref Y Bala fel ein clwb partner diweddaraf yng Uwch Gynghrair JD Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r clwb a’i gefnogwyr gyda’n holl nodweddion, wrth i ni barhau i ehangu ein presenoldeb cynyddol ym myd chwaraeon yng Nghymru. Hoffwn ddymuno tymor llwyddiannus i’r clwb ar ac oddi ar y cae, ac edrychaf ymlaen at ddyfodol hirdymor ein partneriaeth.”


Dywedodd Joe Taft, Swyddog y Wasg Clwb Tref Y Bala:


“Mae Clwb Pêl-droed Tref Y Bala yn falch iawn o fod yn bartneru gyda Fanbase wrth i ni gymryd cam cyffrous ymlaen i wella’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n cefnogwyr. Bydd y bartneriaeth newydd hon yn ein galluogi i gynnig profiad mwy cysylltiedig, effeithlon ac ymgysylltiol i bawb sy’n cefnogi’r clwb. Gyda’n gilydd gyda Fanbase, rydym yn adeiladu dyfodol cryfach – ar ac oddi ar y cae.”


Gallwch ddilyn Clwb Pêl-droed Tref Y Bala a chadw i fyny gyda’r newyddion diweddaraf ar Fanbase YMA – gyda thocynnau ar gyfer ein gemau cyn dymor bellach ar gael!


---------------


Bala Town Football Club are delighted to announce our partnership with Fanbase as we look to improve our fan engagement and enhance our supporters' experience at Maes Tegid.


Through this partnership, fans will be able to buy tickets, book hospitality, and follow club news, all in one place. The platform works on mobile, tablet, or desktop, making it easy to stay connected wherever you are. Tickets can be purchased in just a few clicks and saved to Apple or Google Wallet for quick and simple matchday entry.


For Bala Town, Fanbase provides tools that help the club better understand supporters and stay in touch. The club can track key data, communicate more easily with fans, and make informed decisions to support future plans.


The platform also gives the club new ways to work with sponsors. Sponsor messages can appear in the app’s newsfeed, match centre, and emails, helping partners connect with fans in clear and effective ways.


Fanbase Business Development Manager Kevin Russell commented:


“Everybody at Fanbase is delighted to add Bala Town FC as our latest Cymru Premier League partner club. We look forward to supporting the club and its fans with all of our features, as we continue to increase our ever growing presence across sport in Wales. I would like to wish the club a successful season on and off the pitch and am excited for the long term future of our partnership.”


Bala Town Media Officer Joe Taft said:

“Bala Town FC are delighted to be partnering with Fanbase as we take an exciting step forward in enhancing how we engage with our supporter base. This new partnership will allow us to offer a more connected, streamlined, and interactive experience for everyone who stands behind the club. Together with Fanbase, we’re building a stronger future—on and off the pitch”


You can follow Bala Town Football Club and keep up with the latest news on Fanbase HERE with tickets for our pre-season fixtures now released!


Comments


bottom of page