top of page

Godre'r Berwyn Yn Buddugol Yn Y Cwpan Bragdy



Ar ol absnelodeb y cystadeleuaeth am tri blynedd, dychwelyd y Cwpan Bragdy yn ol efo enillwyr newydd, Godre'r Berwyn.


Enillodd Godre'r Berwyn nos Wener ar ol naw deg munud cylfym a cyffrous yn y rownd derfynol. Dechreuodd Waen y gorau o'r dau tim, gyda cyfle da i agor y sgoriau munudau i mewn ir gem, ond hytrach taro y trawst gwnaeth nhw.


Yna daeth siawns i Godre'r Berwyn gyda Rob Dascalu yn ymgesio sgorio gôl acrobatig o cornel, ond roedd o yn anfodus i saethu dros y gôl. Munudau wedyn roedd Waen efo'r mantais, Tom Evans yn llwyddianus mewn trio dal y gôl-geidwad i ffwrdd o ei llinell efo ymdrech angredadwy.


Bron i Godre'r Berwyn dod yn gyfartal ond roedd Ilan Tudor yna i atal gôl o cornel. O'r cornel nesaf, daeth y cyfartalwr. Miall Roberts ar diwedd croesiad i mewn i'r postyn pellaf.


Ond sgorio eto naeth Waen cyn yr egwyl trwy Gwion Williams naeth ymateb yn syth ar gyfer ei dîm.


Ar ôl y egwyl, roedd Godre'r Berwyn yn gyfartal unwaith eto. Owain Williams yn sgorio gôl anferth ar gyfer ei dîm. Yna oedd y momentwm wedi newid yn ffordd Godre'r Berwyn gyda y tîm yn edrych am trydydd.


Cawsant nhw yr enillydd trwy ei capten, Rob Dascalu, pan sgoriodd o gwmpas 20 llath allan o gôl y gwrthwynebwyr. Ar ôl y gêm cafodd Rob Dascalu codi y Cwpan Bragdy i dîm ifanc Godre'r Berwyn. Enillodd Morgan Jones tlws 'Non-league player' o'r twrnamaint am ei berfformiadau rhagorol trwy yr cystadleuaeth.


Llongyfarchiadau mawr i enillwyr Cwpan Bragdy 2022 - Godre'r Berwyn!







bottom of page