Datganiad - Cwpan y Bragdy
- joetaftbalatown
- 13 minutes ago
- 1 min read

Mae'r datganiad yma yn ynglyn a gemau Cwpan y Bragdy rhwng Llanuwchllyn a Trawsfynydd, ac Shevchenks FC a Cigydd y Bala.
Yn ol rheolau Cwpan y Bragdy, oherwydd nad oedd Llanuwchllyn yn gallu cael tîm at ei gilydd i chwarae Trawsfynydd, mae Trawsfynydd yn symud ymlaen i'r Rownd Go-Gynderfynol.
Hefyd, cadarnhawyd protest gan Shevchenks FC yn nodi fod Cigydd y Bala wedi torri rheolau Cwpan Bragdy yn y gêm rhwng y ddau dîm. Felly, fydd Shevchenks FC nawr yn symud ymlaen i'r Rownd Go-Gynderfynol yn erbyn Trawsfynydd ddydd Gwener Mai 30.
Comments