Wrth i ni gyrraedd Rownd Derfynol Cwpan y Bragdy 2022, hoffem longyfarch Godre'r Berwyn a Waen am gyrraedd y ffeinal.
Fydd 'Ffeinal Ted' yn cael ei gynnal ar Nos Wener, Mehefin 24ain gyda'r cic gyntaf am 6:45yh yn Maes Tegid ar ol penderfyniad gan Pwyllgor Cwpan y Bragdy.
Dewch lawr i Faes Tegid i gefnogi'r ddau dîm, gyda'r pris mynediad yn £2 i oedolion a £1 i plant.
Hoffem hefyd ddiolch i bob tîm a gymerodd rhan a phob un gwirfoddolwr a wnaeth helpu mewn unrhyw ffordd i rhedeg y Cwpan Bragdy eleni. Diolch i chi gyd!
Comments